Prif Swyddogion 2023/24

Shwmae, fy enw i yw Iolo Grant ac mi rydw i yn astudio Mathemateg, Ffiseg, Addysg Gorfforol a Bioleg yn y chweched dosbarth. Rydw i wedi mwynhau ymrwymo mewn nifer o gyfleoedd drama a chwaraeon y cefais dros y blynyddoedd yma yng Nglanaf. Rydw i’n treulio rhan fwyaf o fy amser hamdden yn ymarfer athletau a gwylio pêl-droed. Rydw i wrth fy modd gyda bod yn brif swyddog a methu aros am y flwyddyn nesaf!

 

Helo, Lewys Dafydd ydw i ac rydw i’n astudio Cymraeg, Addysg Gorfforol, Drama a’r Bac yn y chweched dosbarth. Yn fy amser rhydd, rwy’n mwynhau perfformio, closcio, chwarae pêl-droed a gwylio Cymru ac Arsenal yn curo pawb. Dwi’n byw fy mywyd drwy gyfrwng y Gymraeg ac mae’n fraint cael bod yn brif swyddog Glantaf eleni. Amdani!

 

 

Helo! Enw fi yw Hâf Prys-Evans a dwi’n astudio Hanes, Economeg, Mathemateg a Dylunio Technoleg. Yn fy amser rhydd rwy’n hoff o dreulio fy amser gyda ffrindiau a gwirfoddoli mewn ysgol dawns. Symudais i’r ysgol ym mis Medi 2022 a dwi wedi bod yn gweithio’n galed i geisio gwella’r ysgol drwy’r pwyllgor BYG (Byw yn y Gymraeg) a dwi ddim yn gallu aros i barhau gyda hyn fel Prif Swyddog.

 

 

Helo! Fy enw i yw Awen, dwi’n astudio Saesneg Llen, Hanes ac Addysg Gorfforol. Rydw i’n mwynhau manteisio ar yr holl gyfleoedd mae’r ysgol wedi’I gynnig i mi o chwarae hoci i’r Eisteddfod. Byddaf yn disgrifio fy hun fel Cymraes cryf a dwi’n edrych ymlaen yn fawr at flwyddyn nesaf.