Prydau Ysgol a ParentPay

Mae Glantaf yn hapus i weithio gyda ParentPay er mwyn gweithio tuag at fod yn ysgol di-arian, er mwyn hwyluso perthynas ddiogel, effeithlon y gellir ymddiried ynddi gyda rhieni a theuluoedd.

Mae Parentpay yn caniatáu i chi dalu'n uniongyrchol i gyfrifon prydau bwyd eich plentyn a hefyd i dalu am ymweliadau ysgol a gwibdeithiau.

Pan fyddwch yn ymuno â Glantaf dylech dderbyn manylion sut I greu cyfrif. Ar ôl i chi gael manylion eich cyfrif gallwch fewngofnodi ar-lein yn parentpay.com. Chwiliwch am y botwm 'Mewngofnodi' ar y dde uchaf.

Os hoffech ddefnyddio ParentPay ar eich ffôn clyfar, nodwch y dudalen mewngofnodi i'ch sgrin gartref i gael mynediad hawdd. Mae ParentPay wedi'i gynllunio i weithio'n effeithiol ar dabledi a ffonau yn ogystal â chyfrifiaduron PC. Peidiwch â phoeni am ffonau eraill chwaith. Bydd y mwyafrif llethol o ddyfeisiau Android, iOS a Windows Phone yn gallu rhedeg ParentPay.

 

Prydau ysgol

Yng Nglantaf rydym yn falch o gynnig gwasanaeth brecwast, egwyl yn ystod y bore ac amser cinio drwy wasanaeth Arlwyo Caerdydd. Mae'r gwasanaeth hwn hefyd yn cynnwys ein Bistro Chweched Dosbarth.

Gall disgyblion ddefnyddio'r system fiometrig i dalu am eu bwyd a gall rhieni weld yn uniongyrchol ar yr ap ParentPay beth maent yn ei brynu, yn ogystal ag ychwanegu at eu cyfrifon.

Mae cap/ uchafswm ar faint gall pob disgybl ei brynu’n ddyddiol sy’n gallu cael eu haddasu ac mae cyfrif pob disgybl sy'n gymwys i gael Prydau Ysgol am Ddim yn cael ei gredydu'n ddyddiol, ond nid yw balansau (o brydau ysgol am ddim) yn cael eu cario I’r dydd nesaf.

Mae ein gwasanaeth amser cinio yn cael ei ganmol yn fawr gan ddisgyblion a staff ac mae'n gyson ymhlith un o geginau prysuraf holl ysgolion uwchradd Caerdydd.

I weld rhestrau prisiau a manylion pellach gan ein Partneriaid Arlwyo ewch i’r wefan hon:

Gwasanaethau Arlwyo yn yr Ysgolion (cardiff.gov.uk)